Friday, December 10, 2010

Yn unedig yn erbyn y toriadau!

Penwythnos diwethaf, fe ddangosodd tim Plaid Cymru yng Ngogledd Cymru ar gyfer etholiadau'r Cynulliad flwyddyn nesaf ein bod yn unedig yn erbyn y toriadau trychinebus gan y ConDems yn Llundain. Fel ymgeisyddion rhestr, roeddwn i (Heledd), Llyr, Liz a Dyfed yn y rali yn erbyn y toriadau a drefnwyd gan Cymdeithas yr Iaith yng Nghaernarfon. Ond nid jest ni oedd yno. Roedd yr ymgeisyddion canlynol yno hefyd i gefnogi a gyrru neges glir ein bod ni yr unig Blaid wnaiff sefyll fyny'n iawn yn erbyn Llywodraeth San Steffan: Carrie Harper, Marc Jones, Alun Ffred Jones, Eifion Lloyd Jones, Maurice Jones, Iwan Huws, Mabon ap Gwynfor a Mark David Jones, ynghyd a hefyd Jill Evans, Dafydd Iwan, Hywel Williams a Myfanwy Davies heb son am nifer o aelodau'r Blaid ac aelodau o staff.

Er gwaetha'r glaw a'r oerfel, roedd yna gyffro ynghyd a phendantrwydd na wnawn ni adael i Lundain ein dinistrio heb frwydro'n galed am yr hyn sydd yn iawn i gymunedau Cymru. Mae yna lot o waith o'n blaenau dros y misoedd yn nesaf, ond mae tim Plaid Cymru yn y Gogledd yn barod amdano. Rhaid ennill y refferendwm, a rhaid i ni ddal ein tir ynghyd ag ennill mwy o seddi yn etholiadau'r Cynulliad er mwyn sicrhau llais cryf i'n cymunedau. Os hoffai unrhyw un ymuno a ni wrth i ni ymgyrchu ym mhob cornel o'r Gogledd, yna plis dewch i gysylltiad drwy ebostio: plaidcymrugogledd@googlemail.com

Hwyl am y tro,

Heledd

*Diweddaraid 11/12/10: Pan ysgrifennais y blog ddoe, doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r celwydd yn Golwg ynglyn a phresenoldeb y Blaid yn y rali. Ar ddiwedd y rali yr aeth yr ymgeisyddion i gael tynnu eu lluniau. Roedda ni allan yn y gwynt a'r glaw yn gwrando ar yr areithiau ac mae gennym y lluniau i brofi hynny. Yn wir, ymgeisyddion Plaid Cymru oedd y mwyafrif o'r bobl yn y rhes flaen ar gyfer areithiau Hywel Williams, Dafydd Iwan a Marc Jones (ein ymgeisydd yn Wrecsam) ynghyd a gweddill y siaradwyr. Mae'n biti fod Golwg wedi cyhoeddi'r fath gelwydd. Faint o ymgeisyddion y pleidiau eraill yn y Gogledd oedd yn y rali? Dyna'r cwestiwn y dylai'r wasg fod yn ei godi.

No comments:

Post a Comment