Thursday, December 16, 2010

Taro'r Post

Cynhaliwyd rali yn Llundain heddiw fel rhan o’r ymgyrch i wrthwynebu cynlluniau llywodraeth y ConDemiaid i breifateiddio’r Post Brenhinol. Cydlynwyd y rali gan Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu – y CWU ac roedd Elfyn Llwyd yno yn siarad ar ran Plaid Cymru.

Mae’n dweud cyfrolau am gyfraniad cynyddol abswrd y Democratiaid Rhyddfrydol i’r llywodraeth glymblaid yn San Steffan fod Vince Cable wedi creu deddfwriaeth sy’n mynd ymhellach nag a fentrodd yr Arglwydd Mandelson a hyd yn oed Mrs Thatcher.

Mae’n ymddangos bod y llywodraeth yn Llundain yn ystyried y Post Brenhinol fel rhywbeth y gellir ei brynnu a’i werthu fel unrhyw gwmni arall. Y gwir amdani ydi wrth gwrs nad yw hyn yn wir. Mae’n sefydliad sy’n cyflawni gwasanaeth cymdeithasol y mae nifer o bobl a busnesau bychain yn dibynnu arno.

Fe wyddom mai’r unig bobl sydd wedi manteisio o’r “liberalisation” o wasanaethau hyd yma ydi’r busnesau mawrion. Yn y cyfamser mae’r gweddill ohonom wedi gorfod dioddef prisiau uwch a gwasanaethau’n crebachu.

Mae cynlluniau Vince Cable hefyd yn fygythiad gwirioneddol i barhad yr ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol (“universal service obligation”) sydd mor bwysig i gymaint o ardaloedd yng Nghymru, ac i gynifer o swyddfeydd post lleol – yn enewdig mewn cymunedau gwledig.

Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn llawn gwendidau gyda gweinidogion fel petaen nhw’n croesi’u bysedd y bydd Swyddfa Post Cyf yn goroesi ar ei ben ei hun. Does arlliw o ddim yn y ddeddfwriaeth sy’n gwarantu bod perthynas fusnes yn parhau rhwng y ddau gwmni.

Does dim sentiment ym myd y busnesau mawr – elw ydi’r unig gymhelliad. Oes unrhywun wir yn meddwl y bydd Post Brenhinol wedi ei breifateiddio’n llawn yn parhau ag unrhyw gyfrifoldebau cymdeithasol? Mater o amser fydd hi cyn iddyn nhw geisio’i llacio, ei ddiddymu neu hwyrach fynnu sybsidi cyhoeddus – gan adael ni’r trethdalwyr yn colli eto.

Dangosodd pôl diweddar gan YouGov mai dim ond 15% oedd yn cefnogi preifateiddio, tra bod 60% yn credu y dylai aros mewn dwylo cyhoeddus.

Mi fydd Plaid Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch i wrthwynebu’r ddeddfwriaeth wirion yma

Llyr

No comments:

Post a Comment