Wednesday, April 6, 2011

Lansiad heddiw


Wel, mae ymgyrch swyddogol Plaid Cymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol Cymru wedi ei lansio heddiw yn Aberconwy. Mi oedda yna lwyth o bobl yno - ymgeisyddion o bob cornel o Gymru, aelodau lleol sydd yn helpu'r ymgeisyddion ar draws y Gogledd ynghyd a'r wasg. Roedd o'n gyfarfod gwych, ac mi aeth yna griw mawr ohona ni wedyn ymlaen i Gonwy i ymgyrchu hefo Iwan Huws, ein ymgeisydd yn Aberconwy. Ymateb gwych iddo. Ymlaen a'r frwydr dros yr wythnosau nesaf!

No comments:

Post a Comment