Wednesday, April 6, 2011
Lansiad heddiw
Wel, mae ymgyrch swyddogol Plaid Cymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol Cymru wedi ei lansio heddiw yn Aberconwy. Mi oedda yna lwyth o bobl yno - ymgeisyddion o bob cornel o Gymru, aelodau lleol sydd yn helpu'r ymgeisyddion ar draws y Gogledd ynghyd a'r wasg. Roedd o'n gyfarfod gwych, ac mi aeth yna griw mawr ohona ni wedyn ymlaen i Gonwy i ymgyrchu hefo Iwan Huws, ein ymgeisydd yn Aberconwy. Ymateb gwych iddo. Ymlaen a'r frwydr dros yr wythnosau nesaf!
Monday, April 4, 2011
Blog fideo gan Heledd Fychan
Dyma flog fideo gan Heledd Fychan, sydd yn ail ar restr Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru. Ebostiwch eich cwestiynnau i heledd.fychan@plaidcymru.org
Video blog by Heledd Fychan
Video blog by our second placed candidate on the list for North Wales, Heledd Fychan. Please email any questions to heledd.fychan@plaidcymru.org
Subscribe to:
Posts (Atom)